Hanes
Mae’r canlynol yn gasgliad o golofnau a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn Llais y Llan gan Arwyn Thomas, ein hanesydd lleol. Wedi tyfu i fyny yn yr ardal, mae Arwyn yn cynnig safbwynt personol a gwybodus ar fywyd a hanes y pentref.
Drwy gydol ei oes a’i yrfa brysur fel Prif Weithredwr Cyngor Sir Berkshire, cadwai Clive Williams atgofion melys o wyliau plentyndod a dreuliodd yn Llanpumsaint yn y pedwardegau. Gyda Wncwl Defi ag Anti May, byddai’n cael ei sbwylio ym Mhantycelyn, llawn bola o fwyd ar y ffordd, a digonedd o gig bob amser. Mor wahanol oedd hi yma mas yn y wlad, yw chymharu â chynildeb ôl-rhyfel ei gartref yng Nghaerdydd.
Cofiai am ddanteithion eraill hefyd. Y trips lan môr i Ddinbych y Pysgod, yn hongian ar ddwy gadair yng nghwt y fan gig, wedi ei brwsio’n lan wrth gwrs, a Wncwl Defi’n dreifio fel y diawl. Ond yr ofn mwya’ fu pan ofynnwyd iddo fynd a llwyth o wair dros y rheilffordd i’r ydlan. Clywodd y trên yn chwibanu, ond ymlaen aeth y gaseg i stopio ar y funud olaf ger y trac. Yna yn ara’ deg lawr â hi i’r ydlan, wedi ’r wagenni fynd trwyddo. O’dd hi’n nabod ei chynefin!
Bu Clive yn chwarae’n gyson gyda phlant y pentre’ a’r Ifaciwis, ond ei ffrind gorau oedd Trevor Thomas Darfryn. Cofiwn o hyd am hwnnw fel bowliwr cyflym yn y Tîm criced, wnaeth un tro dorri dau ddant y Ficer Emlyn Lewis. Colli cysylltiad fu hanes y ddau grwt wrth iddynt dyfu lan a mynd ei gwahanol ffyrdd. Ail-gynnwyd hen atgofion wrth i Clive ddod ar draws y llyfr Hanes Llanpumsaint. Wedi cysylltu â’r awdur, llwyddwyd, gyda tipyn o help lleol, i ddod o hyd i Trevor yng Nghaerfyrddin. Bellach mae’r ddau hen lanc mewn cysylltiad ac yn ail-fyw atgofion.
Ond ‘dyw’r cyd-ddigwydd ddim yn gorffen manna! Yn ei swydd fel Prif Weithredwr daeth Clive Williams i gysylltiad cyson â phrotest fawr Wragedd Comin Greenham drwy’r wythdegau, yn erbyn y taflegrau Cruise. Synnwyd ef i ddarllen yn y llyfr fod yr holl ymgyrch esgor yn wreiddiol o gyfarfod tair mam yn Gwastod Bach Llanpumsaint yn 1981, dan arweiniad Ann Pettit. Wrth agor Canolfan Ymwelwyr ar safle’r hen Twr Rheoli yn Greenham yn ddiweddar, sylwodd gwraig Clive, wrth ei hagor, fod yr hanes yn anghywir wrth honni i’r holl beth gychwyn o Gaerdydd. Y daith gerdded gyntaf gychwynnodd fanna. Arwyddodd Ann gopi o Lyfr Llanpumsaint, fydd nawr yn cael ei ychwanegu at y Llyfrgell yno yn Greenham.
Un peth arall! Mae Clive Williams yn bwriadu ail-ymweld â’r ardal haf nesaf, ac yn awyddus i gerdded lan yr afon Cerwyn at Phyllau’r Saint unwaith eto. Os neith e’ hynny ar y diwrnod hiraf, daw iachâd o unrhyw afiechyd. Na’r chwedl beth bynnag!
Rhagfyr 2018
Mae ein tywydd anghyffredin o twym eleni yn dwyn atgofion o’r sefyllfa debyg ’nol yn 1976. Bu’r ffermwyr a laddodd gwair yn gynnar yn ffodus, oherwydd wedyn daeth sychder mawr wrth i’r haul tanbaid deyrnasu am wythnosau. Erbyn Awst aeth y caeau’n llwyd, fel eleni, a chlywyd uchel seinydd cerbyd y Cyngor yn cyhoeddi cwtogi ar ddŵr. Felly bu raid i’r lawnt a’r ardd dagu, a gwelwyd lori ar ôl lori yn cartio bwyd anifeiliaid i mewn i’r ardal. Prin fod neb yn talu sylw i farwolaeth Mao Tse-Tung neu etholiad Jimmy Carter i’r Tŷ Gwyn yn yr Amerig.
Dyma flwyddyn Eisteddfod y Llwch yn Aberteifi, gyda chymylau o ddwst yn chwythu drwy bopeth, mor wahanol i brofiad stêcs Caerfyrddin ddwy flynedd cynt yn 1974. Er na chafodd wobr yno, erys awdl Dic Jones Y Gwanwyn, ynghyd a’r Cynheuaf (Aberafan 1966) yn berlau barddonol i’r iaith Gymraeg. ‘Roeddwn yno un noson o wres llethol, yn barod i lwyfannu’r ddrama, Wil Angladde. Ffars o gomedi ddu oedd hi gan Jim Parcnest, wedi ei lleoli mewn mynwent, gyda bedd agored ac actor o gorff. Braidd yn risqué yn y cyfnod hwnnw i ddweud y lleia’! Rhyw bum munud cyn dechrau syrthiodd gwraig fach oedrannus ar ei hyd yn yr ail res o’r gynulleidfa. Dyma wyneb gofidus Jim, oedd yn cynhyrchu, yn ymddangos cefn llwyfan, “Os odi’r fenyw fach na wedi marw ‘sdim un ffordd all y ddrama ma fynd ’mlan!” Wrth lwc wedi llewygu yn y gwres oedd hi, ac wedi dau lased o ddŵr daeth ‘nol i’w sedd i fwynhau’r sbri.
Ar y Sadwrn canlynol ’roeddem i gyd yn rhan o dyrfa enfawr, ar fynwent go-iawn Capel Bwlchycorn ger Rhydargaeau, ac achlysur trist ofnadwy. Bu farw’r bachgen ifanc Emyr, o fferm y Gors gerllaw yn dilyn damwain tractor ar dir or-sych. Yn weithiwr caled a chymeriad byrlymus a ffraeth bu Emyr yn hynod boblogaidd yng Nghlwb Ffermwyr Ifanc Llanpumsaint, ac yn ymysg y criw hapus wnai ymgynnull yn y Stag gyda Madge. Dyma un o’r angladdau mwyaf a welwyd yn lleol, a hynny ar brynhawn o heulwen tanboeth arall.
Awst 2018
Crisialwyd gwerthfawrogiad ardal eang gan garden diolch Gwynfor a Llinos Cwmdwyfran yn Awst 2016, wrth i Eifion osod y botel llaeth olaf ar stepen eu drws. A hynny wedi pymtheg mlynedd ar hugain o wasanaeth. Cofio hefyd mae Nell, ci bach Helen a Huw yn Bronwydd; os wedwch chi Eifion Llaeth! wrthi, daw cyfarthiad atgofus cyfeillgar bob tro.
Yn yr hen amser byddai trigolion tai yn y wlad yn mynd a jwg neu stên i’r ffarm agosaf am ei llaeth, a chan fod pob lle bach yn godro bryd hynny, nid oedd rhaid teithio’n ymhell iawn. Rhywbeth trefol oedd y Rownd Llaeth yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Yna pan adeiladwyd rhagor o dai ar ôl yr Ail Ryfel Byd, daeth y galw am wasanaeth yn yr ardaloedd gwledig. Bu Dai Bedw a’i fab Defi John Llaeth wrthi yn ardal Llanpumsaint. Yna yn 1971 cychwynnodd Eifion Jones arni o’i gartref yn Neganwy Cwmduad, wedi cymryd drosodd Rownd Henry Cynwil. I lawr i Gynwyl, lan i Hermon, a lawr eto i Gwmdwyfran a Bronwydd hyd at waelod Rhiw Graig. O fanna ymlaen Rownd Llanpumsaint oedd hi, lle daeth Gwyneth Thomas Bronallt i olynu Defi John. Gan werthu wyau a menyn hefyd, gwelwyd Gwyneth yn cynnwys Nebo, pentref Llanpumsaint ac ardal Ffynnonhenri dan ei hadain. A hyn i gyd cyn dychwelyd i drwsio ei hardd flodau lliwgar gweladwy ym Mronallt.
Bu Eifion yn gyrru cyfres o gerbydau pic-yp i gludo’r peints dros ddegawdau. Dwy Morris 1,000, dwy Datsun, un Mazda a’r mwyaf adnabyddus, y Volkswagen coch, ffefryn plant Ystâd Cwmdwyfran i ddringo i mewn iddo. Ar y dechrau 11 ceiniog (neu peder a dimau’n arian newydd) oedd peint. Bydde’r cyflenwad oddi wrth Unigate yn wreiddiol, yna Dairy Crest, yn cyrraedd o Bontarddulais, wedyn Abertawe, ac yn y diwedd o Hwlffordd. Gan gychwyn am chwech y bore byddai Eifion wrthi hyd naw neu hanner awr wedi, a chynyddu gwnaeth y Rownd pan adeiladwyd ystadau Bronyglyn a Gelli Aur ym Mronwydd. Yn ei hanterth un tŷ yn unig oedd ddim yn derbyn, ac mi ‘roedd y gwasanaeth yn hollol ddibynnol hyd yn oed adeg eira mawr 1983. Gyda’r heolydd ar gau a’r tancer yn ffili cyrraedd, aeth Eifion at y diweddar Ben Lleine Cynwil (tad John). Ffergi a transport bocs i carto’r llaeth, wedyn benthyg Landrover, a bant a nhw. Syndod o’r mwya’ oedd i ambell wraig agor drws tŷ i’r pentwr eira i weld y poteli yno fel arfer.
Pan gollodd Eifion ei wraig Evelyn yn 1994 daeth y ddau fab, Endaf ac Edryd i’r adwy ac yn gymorth mawr iddo ar adeg anodd. Daeth y newid mawr wrth i Tesco ac yna’r archfarchnadoedd eraill gyrraedd i gyflwyno’r poteli plastig. Newidiodd arferion, a daeth hyd yn oed siopau bach y wlad i werthu llaeth yn y plastig. Tra’r oedd Eifion a Gwyneth yn saff o’u hen gwsmeriaid aeth y newydd-ddyfodiaid i’r ardal i siopa ‘n dre a phrynu bron popeth o’r archfarchnad. Arferai trigolion y wlad ymddiried yn ei gilydd, felly bu’n hollol naturiol i Eifion gerdded miwn heb gnoc i un tŷ i osod y llaeth yn yr oergell. Yna ar brynhawn Gwener aed ati i gasglu’r arian gan edrych ymlaen yn awchus i’r alwad ola'n Hermon lle bydde te a tharten Daisy’n disgwyl. Mae yna dystiolaeth hefyd i Eifion fod yn hynod o garedig i rai mewn trafferthion drwy atal casglu’r ddyled.
Tra’n delio a marwolaeth sydyn synnwyd y plismon caredig gan ymateb y wraig weddw, pan awgrymodd y dylai hi fynd ati i drefnu’r angladd. “O na fe! Wedai wrth y dyn llaeth!” mynte hi. Ni wyddai’r heddwas am swydd arall Eifion, sef yr Ymgymerwr Angladdau urddasol trefnus a mawr ei barch drwy’r holl ardal.
Er gadael y cyflenwad nid oedd sicrwydd beth allai ddigwydd i’r llaeth wedyn. Gallai robin mentrus neu rew caled, ddinistio’r top, neu botel yn cracio, neu rywbeth anghyffredin. Bydde Cwmni Barrett yn y cwar yn casglu creted cyfan ger y fynedfa, ond un bore poteli gwag oedd na i gyd. Yn eu canol nodyn o ddiolch oddi wrth ymwelwyr sychedig o Awstralia oedd wedi methu canfod siop ar agor. Ond dim tâl!
A oes yna dro ar fyd unwaith eto gyda’r adwaith byd-eang yn erbyn plastig yn gweld poteli gwydr yn dychwelyd, a’r dyn llaeth yn troedio dinas Llundain unwaith eto? Cawn weld!
Diddorol nodi sylw Eifion, “Gallech olchi potel wydr lan at ugain o weithiau ond unwaith yn unig ellid defnyddio un plastig!” Ond ’sdim sail i’r sŵn fod Eifion wedi dechrau Rownd Llaeth arall sha Arberth; busnes arall sy da fe lawr fan 'ny.
Mehefin 2018
Er na fu’n gyfaill tuag at y Gymraeg, rhaid cytuno fod y diweddar lenor Gwyn Thomas yn gallu adrodd stori dda. Soniodd am bentref bach ym Mro Morgannwg, lle yn ôl pob sôn, yr oedd yna lyn ofnadwy o ddwfn. Mor beryglus o ddwfn fel na wnaeth neb erioed fentro ymhellach iddo na’r ymyl. Dywedwyd i’r dyfroedd tywyll ymestyn i lawr i’r byd tanddaearol, a chodai’r llyn gymaint o ofn fel nad âi bechgyn dewr yr ardal yno, hyd yn oed yng ngwres tanbaid yr haf. Yna un dydd, cyrhaeddodd dyn dieithr yn benderfynol o roi terfyn ar y fath ffolineb. Rhwyfodd ei gwch i ganol y llyn cyn lluchio’r polyn i’r gwaelod. “Ond pum llath o ddyfnder oedd yna!” meddai Gwyn. Adroddodd mai dyna’r union bellter hefyd rhwng y dyn bach call a’r fintai o bentrefwyr, wrth iddynt ei gwrsio o’r ardal am byth. Mae gennym ein siâr o storïau lleol hefyd. Wrth i chi sefyll ger y golau coch islaw Bronwydd ger Pante ar eich ffordd i’r dre, taflwch olwg at Blasty Cwmgwili draw ar y bryncyn de. O’r pum ffenest llofft, sylwch ar y bedwaredd tua’r dre, sydd yn ôl pob sôn yn cuddio cyfrinach drist. Y stori yw bod bachgen wedi mynd i ryfel a chael ei ladd, ac ymateb y teulu galarus oedd murio’r ffenest a chadw’r ystafell yn union fel y’i gadawyd gan y mab. Cofeb weladwy i’r colledig am byth! Pan oeddwn yn fachgen bach, deuthum ar draws hen gopi o’r cylchgrawn Y Cyfaill Eglwysig am 1937, ac ynddo erthygl am blwyf Llanpumsaint, yn datgelu cyfrinach fawr. Gwyddom am Dwll y Mwyn, rhyw damed o ogof islaw Pantglas yn y chwarel, ar waelod Rhiw Graig. Yn ôl yr erthygl, ar wahân i fod yn fynedfa i dwnnel dihangfa o’r castell uwchben, yr oedd y twnnel yn ymestyn bob cam dros allt Troedyrhiw i’r hen heol Rufeinig. Pellter o filltir o dan y ddaear! Anhygoel! Byddem yn gallu darganfod trysorau, aur ac arian ac esgyrn efallai hyd yn oed. Felly ar brynhawn o haf, dyma fentro iddi mewn trowsus hir benthyg, a golau yn fy llaw, yn barod i ryddhau’r hen gyfrinachau. Bu croesffordd Pantybwci ger Pontarsais yn codi ofn ar genedlaethau o bobl leol. Tystiodd Hywel, Gwynfryn Bronwydd, ei fod yn osgoi’r lle yn y tywyllwch. Wrth gerdded adref ar ôl bod mas hyd oriau man y bore, byddai’n cymryd llwybr hir i gadw draw o’r fan honno. Ar wahân i’r bwci, dyma le byddai hwch mewn cadwyni yn crwydro’n fygythiol, anifail â chysylltiad peryglus â’r byd tanddaearol. Adroddodd Rachel Hannah Blaencors hefyd fod Pantybwci yn codi arswyd ar y boblogaeth leol. Os fydd raid i chi fentro draw yno, peidiwch â mynd mewn car gyda’i oleuadau llachar. Cerddwch yno yn y tywyllwch, yng nghanol nos, pan fydd y gwynt yn chwibanu drwy’r coed. Efallai, wedyn, y byddwch yn deall Hywel. Er y perygl o gael fy nghwrsio o’r ardal, fel y boi bach call ym Morgannwg, mentraf ddatgelu rhai ffeithiau ychwanegol. Beth am y ffenest yno ym Mhlasty Cwmgwili? Wel, yn ôl y perchennog presennol, Griffie Philipps, ni chollwyd mab mewn rhyfel. Murwyd y ffenest gan ei dad, Syr Grismond, er mwyn creu lle tân. Ar ôl ei ddyddiau ef, penderfynodd Griffie wneud i ffwrdd â’r grât, agor y lle tân allan, a rhoi dwy ffenest yn ei lle. Llai o ddrama wedi’r cwbl! A beth am fy antur ddewr i’r ogof? Ar ôl taith hir flinedig o dair llath, daeth yr antur fawr i ben. Craig solid o’m blaen! O na fe! Efallai nad oes yna ddadl dros y fath ddi-ben-draw, ond stori am freuddwydio yw hi wedi’r cwbl.
Ebrill 2018
Un testun siarad ar ddechrau’r flwyddyn debyg iawn oedd yr eira mawr ddisgynnodd cyn Nadolig. Bron i droedfedd o drwch hyd yn oed ar dir isel, a llawer mwy ar y bryniau, ac mi fyddai rhagor ar y ffordd ddechrau Ebrill. Ond daeth trychineb go iawn i darddu ar y man drafod, pan glywyd fod bachgen dwy flwydd oed wedi marw o’i losgiadau yn Pantyffordd, ond dim i'wneud ag efail y gof yno. Pan aeth y fam mas i ‘nol glo, taflodd y plentyn bach bapur i’r grât yn y gegin ac aeth ei ddillad ar dân. Er pob ymdrech gan y teulu a’r meddyg, bu farw o’i losgiadau trannoeth.
Cymerwyd rhan yn nathliad Calan Hen yn Llandysul fel arfer gan Eglwys Llanpumsaint, ynghyd â llu o eglwysi eraill, ddechrau Ionawr. Dan arweiniad Philip Thomas Glynneuadd canwyd yr anthem, “Llawenychais pan ddywedant wrthyf”, gyda Miss Howells Pantiouar wrth yr organ. Cynhaliwyd Eisteddfod Ffynnonhenri ar yr 8fed o Fawrth gyda Mr B. Jones o Hampstead yn y Gadair, a bu’r alltud yn hael iawn gyda’i rhodd o £10. Ail oedd Ben Cwmwernen yn yr adrodd dan bymtheg, yn ildio’r wobr gyntaf i Maggie Davies y Felin. Ail hefyd ddaeth i Nellie Jones Penllwynuchel yn yr unawd dan bymtheg. Flynyddoedd wedyn byddai’n canu y tu ôl i’r Bar yn y Salutation Pontargothi.
Wrthi’r Rhyfel boethi yn Ffrainc a’r colledion yn bentyrru, gorfodwyd mwy a mwy o’r bechgyn ifanc i ymuno â’r lluoedd arfog. Cafodd hyn effaith andwyol ar fywyd a gwaith yn lleol, a gwelwyd cryn wrthwynebiad i’r galwadau milwrol. Aethpwyd ag apêl ar ôl apêl i’r Tribiwnlys ac erbyn 1917 yr oedd y wasg leol wrthi’n gyson yn cofnodi’r canlyniadau.
Esgusodwyd melinydd y Pandy, John Roderick, a hefyd Dafydd Ifans Brodawel, am ei fod yn was ffarm i deulu Pantycelyn. Oherwydd bod mab Manbras (sef Helfa Hall heddiw) yn cario coed i’r pyllau glo hollbwysig, esgusodwyd yntau. Dangosodd y Tribiwnlys gydymdeimlad â ffermwr Glangwili Bronwydd, oedd eisoes wedi anfon tri mab, ac un llysfab, i’r fyddin, cafodd yr olaf aros adre. Ond bu raid i fab Tyrbach ymuno, oherwydd fod yna bedair merch ar ôl i weithio ar y fferm 57 erw, a dyna dynged un o ddynion Pante Bronwydd hefyd. Amhosib plesio pawb! Beth bynnag fyddai penderfyniad y Tribiwnlys, achosai hynny tensiwn i’r gymdeithas, siom neu lawenydd, a chenfigen weithiau hefyd.
Methiant fu ymgais perchennog allt Lanfawr yn Nebo i hawlio iawndal o’r Rheilffordd wedi i’r goedwig fynd ar dân. Yn ôl y Barnwr, gallai sparc o’r trên fod yn gyfrifol. Yn mes Tachwedd, bu mam-gu Mali Post farw yn 69. Hi oedd gwraig yr hen Orsaf Feistr, Thomas Ifans, a adeiladodd y dafarn a’r Swyddfa Bost yno. Ond daeth un darn o newyddion o Ffrainc wnaeth blesio pawb, pan ddyfarnwyd y Fedal Filitaraidd am dewrder i Dan Ifans, mab Typicca, yn Bronwydd. Cyn ymuno â’r Fyddin, bu’n was fferm yn Clover Hill Llanpumsaint.
Treuliodd Dan ei ddyddiau olaf yn y cyn Dafarn Clifford House ger y Graig, a drws nesaf i’w frawd Tom yn Awelfa (gŵr yr enwog Jennie). Bu’n dafarn brysur un amser, ond nid oedd y perchennog yn ei hwyliau gorau tua diwedd 1917. Derbyniodd ddirwy o ddeg swllt gan y Llys yng Nghaerfyrddin am nad oedd golau ôl ar ei gart a cheffyl am hanner awr wedi pump un noson ym mis Tachwedd. Daliwyd ef gan yr Heddwas John Morgan o Gynwil ar yr heol unig i Lanpumsaint. Gallwch weini cwrw ar ôl amser a dod bant â hi, ond mi geith e’ chi am rwbeth cyn diwedd!
Chwefror 2018
Diwrnod digon arferol fydd dydd Mawrth yr 21ain o Fehefin eleni eto yn ein hardal fwy na thebyg. Ond ganrifoedd yn ôl dyma’r dydd pan anelai pob par o draed tua Llanpumsaint, a’u pryd ar gyrraedd Cwm Cerwyn i weld y rhaeadr odidog yno ac ymdrochi ym mhyllau’r Saint oddi tani.
Pum pwll sydd yno wedi eu henwi ar ôl Gwyn, Gwynno, Gwynoro, Ceitho a Chelynin. Dyma’r diwrnod, sef Gŵyl San Pedr, pan ymgasglai poblogaeth yr ardal yma yn y gobaith am iachâd o wahanol glefydau, megis gwynegon, llygaid tost, y ddannoedd, ac achwyniadau eraill.
Yn ôl Brutus, bachgen lleol o bentref Llanpumsaint yn wreiddiol, a golygydd tanllyd “Yr Haul” yn y 19eg ganrif, bu ardal Llanpumsaint yn un o brif ganolfannau’r Derwyddon cyn i’r Rhufeiniaid gyrraedd yma. Mae’n dadlau ymhellach fod enwau rhai ffermydd sydd wedi goroesi, megis Derimysg a Phantydriw, yn cadarnhau’r cysylltiadau derwyddol yma.
Felly pan sefydlodd y Saint eglwys yma ar safle teml yr hen grefydd, gwelwyd hyn fel parhad i’r traddodiadau gynt. Yn yr un modd mabwysiadwyd Cwm Cerwyn i’r byd Cristnogol, a chysegrwyd y pyllau hudol iachus i’r crefydd newydd.
Glynodd y boblogaeth at yr hen ddaliadau am ganrifoedd lawer, a hyd yn oed yn 1710 mae’r Archddiacon Tennison yn nodi fod tua dau i dri chant o bobl yn dal i dyrru yma ar dydd hiraf y flwyddyn.
I lawr yn y cwm cuddiedig gerllaw Bronallt a Gwarcwm ar ben rhiw Cwpers, mae’r mwsogl a’r creigiau llithrig yn dal i guddio’r hen hen gyfrinachau. Yma ar ddydd byrraf y flwyddyn, mae haul y gaeaf ganol dydd yn tywynnu’n syth i lawr canol y rhaeadr, digwyddiad hynod o arwyddocaol i’r hen grefydd anghofiedig.
Dyma safle arbennig iawn, mor agos i drafnidiaeth a phrysurdeb yr oes gyfoes, ac eto mor gyntefig o bell i ffwrdd. Os am iachâd, ewch i lawr yno’n ofalus. Nid oes raid gwneud apwyntiad, a does dim angen aros am driniaeth. Cewch feddyginiaeth yn syth.
Ond o ddifri, mewn oes pan welwn lu o hysbysfyrddau hanesyddol digon pitw mewn amryw ardal, onid oes dadl dros hysbysu’r hen byllau sanctaidd yma sy’n egluro tarddiad yr enw Llanpumsaint? A beth am lwybr diogel i lawr yno ar ôl glanhau’r safle ac ail-gysegru’r safle santaidd? Dyma ein crair hynaf a phwysicaf.
Ebrill 2011
Does dim angen eich atgoffa chi'r Cymry o'r traddodiad eisteddfodol lleol. Ymhell cyn adeiladu'r Neuadd Goffa yma yn 1928, cynhelid llu o eisteddfodau lleol yn ein capeli, festri a hefyd yn yr ysgol. Dyma draddodiad fu'n ymestyn nôl am ganrifoedd a chyfoethogwyd profiadau lu o blant ac oedolion wrth iddynt ganu ac adrodd ar lwyfan o flaen cynulleidfa. Yna yn 1944 daeth tro ar fyd pan sefydlwyd ficer newydd yma. Ar wahân i'w ddyletswyddau plwyfol ymhyfrydai'r Parch Emlyn Lewis ym myd y ddrama, a lweddolwyd yn fuan fod ei wraig, Decima, yn gantores o bri, yn enillydd cenedlaethol ac yn feirniad eisteddfod heb flewyn ar dafod. Aethant ati'n o fuan i roi Llanpumsaint ar y map eisteddfodol. Gyda chymorth brwdfrydig y plwyfolion sefydlwyd eisteddfod fawreddog, i'w chynnal yma ar y dydd Sadwrn cyntaf o Fai bob blwyddyn. Yn fuan gwelwyd cystadlu brwd, gyda'r plant yn canu ac adrodd o'r prynhawn cynnar tua'r hwyr, ac yna'r oedolion drwy'r nos hyd oriau man y bore. Gallech fwynhau'r hyn oll am ddim mwy na hanner coron!
Gellir olrhain twf a llwyddiant y fenter drwy gymharu rhestrau enillwyr. Yn 1944 yr oedd dros naw deg y cant ohonynt yn byw’n lleol, gyda Cliff Ffynnonvilla ar y brig am y stori orau. Ond erbyn 1954, a’r eisteddfod bellach yn wir fawreddog, dim ond dau neu dri enw lleol wnaeth ymddangos mewn print yn y Journal, roedd pawb arall o bant. Tyrrent yma i’r Mecca gystadleuol mewn trenau, bysiau ac ambell un lwcus mewn car. Deuent o Landysul ac Aberteifi, o Cross Hands, Pontardulais, Trimsaran a thu hwnt. Un tro gwelwyd dwsin o gantorion yn cyrraedd am yr Her Unawd, a phob un yn enillydd cenedlaethol. Dim ond pum punt oedd y wobr, y clod o lwyddo yn Llanpumsaint oedd yn bwysig. Cymaint aeth rhif yr ymgeiswyr i rai cystadlaethau fel bu raid trefnu rhagbrofion yn y Ficerdy a Phantycelyn.
Drwy gydol y dydd gwelwyd amryw o arweinwyr yn llywio o’r llwyfan, ac mi ‘roedd yn weddol hawdd yng ngolau dydd, ond sefyllfa hollol wahanol welwyd yn hwyr y nos ac i mewn i oriau man y bore. Yn ôl traddodiad y Ficer fyddai’n llywio’r oriau olaf, ac fel y gwyddai rhai o’i aelodau yn yr eglwys, mi allai Emlyn Lewis fod yn swrth. Un prynhawn Sul trymedd ag yntau hanner ffordd trwy’r bregeth, pwyntiodd ei fys at Dafi Jones Lantywi, ei warden, a chyfarth, “Rhowch bwt i Jac! ’Sdim ots da fi fod e’n cysgu ond allai’m godde’ neb yn hwrni pan mod ni’n pregethu!”
’Run fath o’dd hi ar lwyfan y neuadd. Gyda’r cloc yn tician ymhell tu hwnt i hanner nos, cystadleuwyr blinedig yn hwyr i’r alwad i’r llwyfan, a’r dorf yn anesmwytho (gydag ymborth yr hwyr gyrhaeddwyr o dafarn y Railway), tawch mwg oriau o smygu yn hongian uwch welydd chwyslyd neuadd orgynnes, gallech gydymdeimlo ag ’e. Ag ynte hefyd yn dechrau troi’r tair pregeth trannoeth yn ei feddwl, ar ôl ychydig iawn o gwsg, ddim rhyfedd fod e’n mynd yn grac. Achlysur felly oedd hi pan geryddodd y plismon aneffeithiol lleol yng nghwt y neuadd wrth frwydro eto am dawelwch i gystadleuydd, “Ti’n cael dy dalu am wneud dy job di! Sa’ ’I!”
Chwefror 2011
Yn anffodus gwelwn lai a llai o blant cefn gwlad yn casglu calennig. Er bod yr hen draddodiad yn ffordd hwylus o lenwi pocedi ar fore cynta’r flwyddyn newydd, rywfodd mae’r ieuenctid yr oes hon wedi colli diddordeb. Mae hynny yn golled gymdeithasol hefyd. Hyd at ryw hanner canrif yn ôl, bechgyn hyn yn eu harddegau, fyddai’n mynd allan i ganu.
Dechreuent yn union ar ôl hanner nos, ym munudau cyntaf y flwyddyn newydd. Yna prysuro o dŷ i dŷ ac o fferm i fferm, i ganu penillion a bloeddio Blwyddyn Newydd Dda dan amrywiaeth o ffenestri llofft. Eu gwobr fyddai dyrnaid o arian yn tasgu i’r llawr, a chyfarchion y teulu am flwyddyn lewyrchus hefyd. Yn ychwanegol at hyn, byddai ambell lanc wedi blasu’r wefr o weld gwraig y tŷ yn ei gwn nos, a bellach yn gwybod p’un ai pyjamas neu grys nos a wisgai’r hen ffarmwr.
Gan taw unwaith y flwyddyn, ac am ychydig oriau caent y cyfle i elwa, aed ati ymlaen llaw i gynllunio’r daith yn ofalus. Rhaid taro targedau’r rhoddwyr hael yn gynnar ac osgoi’r tai lle honnai’r cybyddlyd nad oeddent wedi clywed neb. ’Roedd yn bwysig hefyd anelu at fferm gymwynasgar ryw hanner ffordd drwy’r daith, lle byddent ar lawr o hyd, yn barod a ymborth a diod i’r cantorion. Ond ni thalai ffordd i oedi gormod ac amser yn brin, oherwydd yn ôl traddodiad, fydda na ddim llawer o groeso yn unman ar ôl tri o’r gloch y bore. Chwarae teg hefyd, mi fyddai rhaid i bawb godi o’u gwelyau drannoeth.
Y bore wedyn, sef bore Calan, tro’r plant lleiaf oedd hi, gyda’r merched hefyd yn ymuno yn yr hwyl. Aent o ddrws i ddrws i adrodd a chanu eu cyfarchion i’r flwyddyn newydd gan gasglu melysion ac arian. Credai rhai yn gryf yn yr hen ofergoelion, felly tasech chi’n fachgen o wallt tywyll caech groeso arbennig mewn ambell dŷ. ’Roedd gweld rhywun tywyll ei olwg gyntaf yn y flwyddyn yn arwydd bendant o lwc dda i’r misoedd i ddilyn.
Pan oeddwn i’n blentyn, cofiaf yn dda fod gennym un cymydog hynod o hen ffasiwn oedd yn credu’n gadarn yn yr hen ofergoelion hyn. Os na welent fachgen o wallt tywyll, anlwc fyddai eu tynged wedyn. Un bore Calan, a neb wedi canu yn ystod y nos, cyrhaeddodd merch o wallt golau ar stepen y drws ben bore, i weiddi ei chyfarchion diniwed. Chafodd hi fawr o groeso, a phan drigodd buwch iddynt yn sydyn ym mis Mai ar ôl hynny, y groten honno gafodd y bai. Dyna pam dilynais gyngor Mam bob bore Calan, cadw draw oedd ore i rywun a gwallt coch.
Trist yw nodi fod yr hen draddodiad Celtaidd hanesyddol hwn o gasglu calennig wedi gwywo’n gynyddol dros yr hanner canrif olaf yma. Rhaid cyfadde’ fod mewnlifiad estroniaid i’r ardal, na wyddant am ein harferion, yn un ffactor, ond nid dyna’r holl ateb. Mae pethe wedi newid, oherwydd bod teuluoedd bellach yn fwy annibynnol a llai cymdeithasol, gyda llu o atyniadau eraill yn hoelio sylw.
Ond er hynny mae modd adfer y sefyllfa. Faint ohonoch chi blant sydd yn barod i fynd allan i gyfarch a chasglu calennig eleni? Faint ohonoch chi oedolion sydd yn fodlon addysgu’r newydd-ddyfodiaid i’r hen draddodiad gan ofyn iddynt croesawu’r plant ar fore Calan? Wedi’r cwbl mae’n ffordd hwylus i hybu dealltwriaeth a chyfeillgarwch rhwng unigolion o wahanol gefndiroedd a chenedlaethau. Rhyw ddwy awr y flwyddyn yw’r holl beth! Rhowch gynnig arni!
Rhagfyr 2010
Ynglŷn â’r awdur
Mae’r tudalennau hanes hyn yn adlewyrchu gwaith cyhoeddedig Arwyn Thomas, a fagwyd ar fferm Pantglas rhwng pentrefi Bronwydd a Llanpumsaint ac sy’n adnabod yr ardal yn dda.
Ar ôl mynychu ysgol Llanpumsaint ac Ysgol Ramadeg Caerfyrddin, aeth ymlaen i raddio o Brifysgol Abertawe gyda gradd anrhydedd mewn Hanes. Yn ystod ei yrfa fel athro yn Ysgol Gruffydd Jones, Sancler, bu’n cynnal dosbarthiadau hanes lleol gyda’r nos am gyfnod. Wedi iddo ymddeol ar ôl 25 mlynedd yn bennaeth ar Ysgol Ddwyieithog Maesyryrfa yng Nghefneithin, dychwelodd Arwyn at ei bwnc ac ers hynny mae wedi cyhoeddi llyfrau ac erthyglau ar hanes lleol.
Mae ei ddiddordebau eraill yn eang. Yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1979 enillodd y wobr actor gorau am ei berfformiad yn ‘Waiting for Godot’. Roedd yn un o sylfaenwyr clwb criced Bronwydd, ac mae wedi gwasanaethu’r gêm mewn sawl rôl. Bu’n chwarae, yn hyfforddi, yn hyfforddi umpireiaid ac yn gofalu am y cae dros y blynyddoedd. Bu hefyd yn aelod o Glwb Golff Caerfyrddin am 35 mlynedd. Roedd yn mwynhau cerdded ac mae wedi teithio’n eang dramor.





